Beicio i’r ‘steddfod / Cycling to the Eisteddfod

IMG_0252

CYRRAEDD YR EISTEDDFOD AR BEIC

(Scroll down for English) 

Os ydych chi wedi bod yn dilyn ein cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf mae’n siŵr byddwch chi’n ymwybodol bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mhontypridd – mae’n dechrau dydd Sadwrn yma (3ydd Awst).

Rydym wedi cael ychydig o gwestiynau am ran olaf y llwybr, ac a oes modd cyrraedd y Maes, dros y bont dros yr A470 a thrwy lwybr yr afon i’r de o Barc Ynysangharad.

Yn anffodus, yr ateb yw na.

Fodd bynnag! Aethon ni am reid i edrych ar y llwybr bore ma, ac mae ffordd i gyrraedd y Maes ar hyd Taith Taf:

Wrth ddynesu o’r de, pan gyrhaeddwch Gampws Prifysgol De Cymru yng Nglyntaf, mae angen i chi ddilyn arwyddion Taith Taf ar hyd Heol Pentrebach (peidiwch â mynd dros y bont droed) ac yna troi i’r chwith i Heol Ynysangharad, heibio’r Dafarn “Bunch of Grapes,” ac yna croesi cyffordd yr A470. Yna, dilynwch y llwybr o amgylch top y parc, dros bont yr afon, ac yna fe welwch fynedfa’r Maes ar y chwith.

Rydyn ni wedi rhoi’r llwybr ar Strava – gallwch chi ddilyn y llwybr trwy’r ap neu gallwch chi lawrlwytho’r ffeil GPX i’w defnyddio ar eich dyfais fapio o’ch ddewis!

Welwn ni chi ar y Maes!

Fe wnaethon ni dreulio ychydig oriau cyn y gwaith yn edrych ar y llwybr – mae Dinas Feicio Caerdydd yn sefydliad dielw sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, felly byddem yn gwerthfawrogi pe gallech chi ddilyn, hoffi a rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol!

Diolch!

ARRIVING AT THE EISTEDDFOD BY BIKE

If you’ve been following our social media over the past few weeks you’ll probably be aware that the National Eisteddfod is taking place in Pontypridd – it starts this Saturday (3rd August).

We’ve had a few questions about the final part of the route, and whether it’s possible to arrive at the Maes, over the bridge over the A470 and via the river path to the south of Ynysangharad Park.

Unfortunately, the answer is no.

However! We went for a ride to check out the route this morning, and there is a way to get to the Maes via the Taff Trail:

Approaching from the south, when you get to the University of South Wales Campus at Glyntaf, you need to follow the Taff Trail signs along Pentrebach Road (don’t go over the footbridge) and then turn left onto Ynysangharad Road, past the Bunch of Grapes pub, and then cross the A470 junction. Then, you follow the path around the top of the park, over the river bridge, and then you’ll see the entrance to the Maes on your left.

We’ve put the route on Strava – you can follow the route via the app or you can download the GPX file to use on your mapping device of choice!

See you on the Maes!

We spent a couple of hours before work checking out the route – Cardiff Cycle City is a non-profit organisation run exclusively by volunteers, so we’d appreciate it if you could follow, like and share on your social media channels! 

Thanks!